Polisi Diogelu Data 2018 Cymdeithas Hanes y Tair Llan
- Cedwir enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost (os yn berthnasol) pob aelod sydd wedi talu ei aelodaeth am y flwyddyn gyfredol. Ar gyfer aelodau sy’n talu drwy Archeb Sefydlog, cedwir cofnod o’r enw sydd ar y cyfrif banc er mwyn gallu adnabod pob taliad. Diogelir copïau electonig gan gyfrinair, a chedwir copïau papur yn ddiogel. Ni chânt eu gweld gan unrhyw un heblaw’r Swyddogion y Gymdeithas.
- Caiff yr wybodaeth ei diweddaru’n flynyddol wrth i’r aelodaeth newid. Cedwir rhestr o enwau aelodau’r flwyddyn flaenorol er mwyn hylwyso’r broses o ailymaelodi ar gyfer y tymor newydd.
- Ni chedwir ond yr wybodaeth roddir i ni gan aelodau.
- Ni rennir yr wybodaeth gydag unrhywun arall.
- Amcan hyn oll yw cadw cofnod o bawb sydd wedi talu tanysgrifiad blynyddol, a’n galluogi i yrru gohebiaeth gyffredinol, manylion digwyddiadau a drefnir gan y Gymdeithas, ac unrhyw wybodaeth berthnasol gall fod o ddiddordeb i’r aelodau.
- Gallwch ofyn pa ddata a gedwir amdanoch ac os y dymunwch, gallwch ofyn i’r wybodaeth gael ei ddileu.
- Mae’r polisi hwn i’w weld ar ein gwefan, ac mae copi papur ar gael i aelodau sydd heb gyfrif e-bost.
- Mae’r polisi hwn a luniwyd gyda chyngor yr Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth, yn cydymffurfio, hyd y gwyddys, â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a ddaeth i rym ar 25 Mai 2018.