Tudalen Wicipedia Cymraeg y Gymdeithas https://cy.wikipedia.org/wiki/Cymdeithas_Hanes_y_Tair_Llan
Hanesion Llanfaglan, yma https://cy.wikipedia.org/wiki/Llanfaglan
Darganfyddiad yn Ninas Dinlle http://www.coflein.gov.uk/cy/safle/271408/manylion/HORATIO/
Canlyniad gwaith Archaelegol Hen Gastell http://www.heneb.co.uk/hengastell/blog.html
Sgwrsio efo Ron Redmayne, Meic Jones ac Arwyn Hughes, atgofion plentyndod yn yr ail ryfel byd a’r 1940au yn Saron Llanwnda a mwy. Recordiwyd yn haf 2013, ac yn anffodus mae yna rai y sonnir amdanynt yma wedi ein gadael ers hynny. https://soundcloud.com/user-457360549
Cynnwys Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon 1-69 Caernarvonshire Historical Transactions
Hanes sefydlydd Sinn Fein, y teulu yn wreiddiol o Ddrws y Coed http://golwg360.cymru/newyddion/gwleidyddiaeth/257533-sinn-fein-ni-ein-hunain-nid-ni-yn-unig
Cerdd gan Cynan am gymeriad lleol
ANNERCH I’M CYFAILL, Evan Roberts (Ivey), Belan Fort, Caernarfon (yn awr ar fwrdd. yr H M.S. Hermione)
Dy gofio Ivey ‘rwyf
Mor hylaw gyda’th rwyf,
Yn “Llongwr bach,”
A’th wen mor iach;
Heb ofni llid y don,
Na’r brad sydd dan ei bron,
Ond llithro drosti’n llon,
Wnai th fad o hyd.
Ond swn y cefnfor mawr
A ddenai’th fryd;
Am froydd toriad gwawr
Yn son o hyd;
Troi cefn ar Gymru’th wlad,
Ac annwyl dy dy dad,
A wnest yn llencyn mad,
Er gweld y byd.
O’th gartref ar y don,
Fel gwylan dlos,
Eheda serch dy fron
Ar lawer nos,
I’r Belan, He mae “Nel,”
A’th dad mewn cartref del,
A Bob dy frawd mor ffel,
A’u gwedd fel rhos.
Mor-filwr dewra’r don,
A’r hardda’i lun,
Wyt heddyw, ar dy fron
Mae tlysau cun;
Yn gwylio ar bob awr
Forlannau Prydain Fawr,
Mor hcenus, rynnis gawr,
Heb garu hun.
Tywyned huan hedd
Ar for a thir.
Cyn rhoi y byd mewn bedd
Trueni gwir:
Aelwydydd hoff ein gwlad
Dan ci bd-drau mad
Yn derbyn gwir fwynhad.
Mown awyr glir.
Brynaerau, Clynnog.
CYNAN.