Mehefin 10fed 2019
Ein digwyddiad blynyddol erbyn hyn, bu’r gymdeithas a chriw o fyfyrwyr o Texas, a oedd ar gwrs ym Mhrifysgol Bangor i weld Dinas Emrys ac adrodd hanes y Ddraig Goch a chwedlau eraill ynghlwm, ynghyd ag enwau lleoedd.
Gorffennaf 2018.
Bu dau aleod o’r Gymdeithas a grwp o fyfyrywr o’r Goleg Mary Wahishington o dalaeth Virgina, Unol Daliethiau i ymweld a Chastell Caernarfon, Segontium, Beddgelert a Dinas Emrys. Roedd y myfyrwyr yn astudio llenyddiaeth chwedlonol ym Mhrifysgol Bangor am gyfnod dros yr haf ac wedi ymweld a Glastonbury a Trevena yng Nghernwy.
Gorffennaf 2016
Bu aelodau o’r gymdeithas yn tywysu myfyrwyr o’r Unol Daleithiau a oedd yn astudio llenyddiaeth canoloesol mewn ysgol haf ym Mhrifysgol Bangor ym mis Gorffennaf. Buont yn ymweld a’r Fryngaer yn Ninas Dinlle, Hen Eglwys Llanfaglan a Dinas Emrys. Yma mae Gwyn Edwards, yn trafod hanes Dinas Emrys. Trefnwyd y gweithgareddau gan Sian Peris Owen ein trysorydd, ac Ifor Williams tu ôl i’r camera.
Rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i bostio sylw.